Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Mewngofnodi | Cofrestru


Mae ein Tanysgrifiad Ysgol yn gynnig eang ei gwmpas, sy’n cefnogi disgyblion, athrawon a’ch cymuned ysgol ehangach drwy’r celfyddydau creadigol. Ochr yn ochr â cherddoriaeth, rydyn ni’n gweithio gyda’r Tîm Ymgysylltu Creadigol i sicrhau arlwy eang ar draws ffurfiau celfyddydol.

Drwy ymuno â’r cynllun, bydd gan ysgolion fynediad* at y canlynol:

• 2 weithdy creadigol, aml-gelfyddyd am ddim y flwyddyn

• 1 perfformiad cerddoriaeth byw

• Hyfforddiant athrawon gwyll ar-lein misol

• Cefnogaeth i greu strategaeth Celfyddydau Mynegiannol ar gyfer eich ysgol

• Cefnogaeth i geisiadau menter Cyngor Celfyddydau Cymru (ee: Ysgol Greadigol Arweiniol, Ewch i Weld)

• Cefnogaeth gyda chynyrchiadau a chyngherddau ysgol

• Benthyg offerynnau dosbarth (seiloffonau, drymiau, recordyrs)

• Prosiectau gan gynnwys Noson Gig yr Ysgol a Chanu Mawr

• Cynigion tocynnau ar gyfer sioeau i grwpiau ysgol

• Cynnig lles a chynllun tocynnau ar gyfer staff ysgol

• Aelodaeth Nod Cerddoriaeth – Music Mark (Sefydliad Sector Addysg Cerddoriaeth y DU)

• Y cyfle i fod yn rhan o gynllun peilot Cefnogi'r Cwricwlwm

Bydd hyn hefyd yn cael ei ddatblygu ymhellach gydag ailagor adeilad Theatr Clwyd yn 2025 ac mewn ymateb i adborth parhaus gan ysgolion.

Cost i ysgolion: £1500 y flwyddyn neu £2000 gan gynnwys rhaglen Ddilynol Profiadau Cyntaf Gostyngiad adar cynnar o £150 i ysgolion sy'n archebu lle cyn 15fed Gorffennaf 2024 *bydd rhywfaint o'r cynnig hwn yn amodol ar argaeledd

Ffurflen Archeb i Ysgolion