Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Gwersi | Tanysgrifiadau | Cwestiynnau Cyffredin | Adnoddau


Rydyn ni’n cynnig gwersi offerynnol, canu a theori cerddoriaeth mewn ysgolion ledled Sir y Fflint. Mae’r rhain yn cael eu harchebu’n uniongyrchol gan rieni, gofalwyr neu fyfyrwyr drwy ein porthol ar-lein, SpeedAdmin.


Byddwn yn cysylltu â'ch ysgol i sicrhau bod gwersi wedi'u hamserlennu a bod gofod addas i'n Cysylltiadau ni ei ddefnyddio ar gyfer addysgu. Rydyn ni’n gwybod cymaint mae ysgolion yn gwerthfawrogi’r cyfle i’w disgyblion gael gwersi offerynnol a lleisiol ac rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cefnogaeth i wneud hyn ar gael i gynifer o blant a phobl ifanc â phosibl.

Darganfyddwch pa offerynnau sydd ar gael yma a bydd ein tîm niyn gallu cynnig cyngor pellach i fyfyrwyr, rhieni a gofalwyr ar beth i'w ddewis e-bostiwch music@theatrclwyd.com


O fis Medi 2024 ymlaen ni fydd angen cyfraniad ariannol mwyach gan ysgolion tuag at bob gwers.
Mae ysgolion yn parhau i gefnogi cost gwersi ar gyfer disgyblion sy'n gymwys ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion (GDD) a'r rhai sy'n dilyn cwrs TGAU a Safon Uwch mewn cerddoriaeth.

Gwersi grŵp
£5.29 (os oes 2 yn y grŵp bydd y wers yn 20 munud, i grwpiau o 3 bydd y wers yn 30 munud)

Gwersi unigol
£12.71 (gwers 20 munud)

£19.06 (gwers 30 munud)

Prisiau o 1af Medi 2024

Mae gwybodaeth am gymorth tuag at gost gwersi ar gael yma.