Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Gwersi | Tanysgrifiadau | Cwestiynnau Cyffredin | Adnoddau


Yn newydd ar gyfer 2024/2025, rydyn ni’n cynnig yr opsiwn i brynu 17 sesiwn ychwanegol gyda Chyswllt Cerddoriaeth, gan roi cyfle i’ch disgyblion ddilyn ymlaen o’r sesiynau Profiadau Cyntaf a darparu llwybr i ddechrau gwersi offerynnol.

Gall hyn alluogi'r dosbarth cyfan i barhau i ddysgu neu gellir ei rannu'n sesiynau byrrach ar gyfer grwpiau llai o ddisgyblion. Darperir yr offerynnau ac efallai y bydd opsiwn hefyd i ddisgyblion roi cynnig ar wahanol offerynnau o’r un teulu, fel y soddgrwth a’r fiola (llinynnau), y trombôn a chorn tenor (pres), y clarinet a’r ffliwt (chwythbrennau).

COST: £650 (17 x sesiwn 1 awr) neu £500 wedi’i ychwanegu fel rhan o danysgrifiad ysgol (cyfanswm cost y tanysgrifiad - £2000)

Ffurflen Archeb i Ysgolion