Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Gwersi | Tanysgrifiadau | Cwestiynnau Cyffredin | Adnoddau


Mae ein rhaglen wych ni o addysgu offerynnol i ddosbarth cyfan, sy’n cael ei chynnig am ddim i holl fyfyrwyr blwyddyn 3 Sir y Fflint, yn cyrraedd tua 1600 o blant bob blwyddyn.

Ein nod ni yw rhoi cyfle i blant ddysgu offeryn mewn awyrgylch hwyliog a hamddenol, a hefyd meithrin sgiliau a hyder drwy ganu, gemau cerddorol a pherfformiadau.

Mae’r rhaglen yn cefnogi cyflwyno’r cwricwlwm, gan ddarparu man cychwyn ysbrydoledig ar gyfer siwrneiau cerddorol disgyblion. Mae’r sesiynau’n cael eu cyflwyno ar y cyd gyda Chyswllt Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn gweithio ochr yn ochr â staff yr ysgol, gan roi cyfle gwerthfawr i ymarferyddion dosbarth ddatblygu eu hyder eu hunain wrth gyflwyno gweithgareddau cerddoriaeth yn y cwricwlwm ehangach.

Mae llawer o'n hathrawon Profiadau Cyntaf yn defnyddio adnoddau ar-lein Charanga. Mae Charanga ar gael am ddim hefyd drwy Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru i bob ysgol.



Profiadau Cyntaf 2024-2025

Bydd pob ysgol gynradd yn cael 17 sesiwn wythnosol dros y flwyddyn academaidd yn para hyd at awr. Bydd y rhain yn cael eu cynnal naill ai ym mis Medi 2024 – mis Chwefror 2025 neu fis Chwefror 2025 – mis Gorffennaf 2025. Bydd yr 17 sesiwn yn cynnwys sesiwn cyflwyniadol a pherfformiad terfynol.

Bydd ysgolion yn cael gwybod ym mha hanner o’r flwyddyn y byddant yn gwneud Profiadau Cyntaf ac yn derbyn offerynnau. Byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol i drefnu'r sesiynau.

Gallwch hefyd brynu Sesiynau Dilynol Profiadau Cyntaf am weddill y flwyddyn academaidd (17 wythnos).


Mwy o wybodaeth...

Yr hyn rydym yn gofyn amdano gan ysgolion sy’n cynnal sesiynau Profiadau Cyntaf:

• Athro dosbarth neu Gynorthwy-ydd Addysgu priodol i gydgyflwyno sesiynau ochr yn ochr â'n Cyswllt Cerddoriaeth
• Person cyswllt ar gyfer ein tîm gweinyddol
• Manylion perthnasol am unrhyw ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a chefnogaeth briodol i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i'r sesiynau
• Gofod addas ar gyfer cynnal y sesiwn
• Mynediad i daflunydd / sgrin a system sain
• Mynediad rhyngrwyd i'n hathro
• Storfa ar gyfer yr offerynnau
• Manylion am unrhyw ddyddiadau pan fydd yr ysgol ar gau neu pan na fydd y disgyblion ar gael cyn belled ymlaen llaw â phosib
• Cefnogaeth gyda pharhad a chyfeirio at gyfleoedd cerddorol pellach


Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am Brofiadau Cyntaf, cysylltwch â’n Cydlynydd Profiadau Cyntaf, Susie Jones firstexperiences@theatrclwyd.com

Mae Profiadau Cyntaf yn cael eu cyllido gan Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru