Telerau ac Amodau
Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Mewngofnodi | Cofrestru
Cyflwyniad & Eich Cytundeb
Diolch am gofrestru am wersi gyda Cherddoriaeth Theatr Clwyd. Mae Telerau ac Amodau eich tiwtora fel a ganlyn:
Os gwelwch yn dda, darllenwch yn ofalus gan y byddwch, trwy gyflwyno’r cais a thicio’r blwch ar ein ffurflen gais ar-lein, yn cytuno i’r Telerau ac Amodau isod, os nad ydych yn ein hysbysu o fewn 14 diwrnod gwaith o dderbyn cadarnhad o’ch cynnig.
Diffiniada
Golyga Cerddoriaeth Theatr Clwyd Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd Cyf, yn Raikes Lane, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 1YA
Ar gyfer pwrpas y cytundeb hwn, cyfeiria “Telerau” at un o’r cyfnodau canlynol: Hydref (Medi i Ragfyr), Gwanwyn (Ionawr i Fawrth, Haf (Ebrill i Orffennaf).
Ar gyfer pwrpas y cytundeb hwn, cyfeiria “Y Flwyddyn Academaidd” at Fedi - Gorffennaf
Gwersi ac Absenoldebau
Gwersi bob blwyddyn: Rydym yn gwarantu na fydd cysylltiadau Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn cynnig llai na 34 gwers yn ystod y flwyddyn academaidd lawn. Os byddwn yn cynnig llai na’r lleiafswm gwarantedig hwn, byddwn yn gwneud ad-daliad pro-rata neu gredyd parthed y golled, a hynny fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
Colli gwersi/Ad-daliadau/Credydau/Aildrefnu
• Absenoldeb y Cyswllt Cerddorol: Pan fo’r cyswllt cerddorol yn methu sesiwn oherwydd salwch neu oediad teithio, byddent yn ceisio aildrefnu’r sesiwn (e.e. trwy sesiwn ychwanegol neu wers ddwbl). Pe na bai hi’n bosib aildrefnu, caiff ad-daliad neu gredyd ar gyfer y wers ei dalu, fel arfer, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.
• Absenoldeb Myfyriwr: Ni allwn gynnig ad-daliadau na chredydau am wersi sy’n cael eu methu gan y myfyriwr, oherwydd salwch tymor byr, teithiau/gweithgareddau ysgol, cyfnod adolygu, arholiadau ayb. digon o fyfyrwyr i wneud grŵp llawn byddwn yn cysylltu â’r myfyriwr i drafod eu opsiynau. Gall hyn gynnwys newid i wersi unigol, mynd ar restr aros tan y bydd mwy o ddisgyblion yn cofrestru, neu barhau i dderbyn cyfradd pro-rata o hyd y wers tan mae eraill yn cofrestru. Er enghraifft:
• Os mai dim ond 1 person sydd wedi cofrestru am Grŵp Bychan o 2 wers (30 munud), byddent yn derbyn hanner hyd y wers (15munud).
• Os mai dim ond 1 person sydd wedi cofrestru ar gyfer Grŵp Bychan o 3 (30munud), byddent yn derbyn traeon hyd y wers (10munud) neu os mai dim ond 2 berson a gofrestrwyd ar gyfer Grŵp Bychan o 3 byddent yn derbyn dau draean o hyd y wers (20munud).
Tynnu’n ôl o Wersi
Bydd gwersi ac aelodaeth ensemble yn parhau o dymor i dymor ac o flwyddyn i flwyddyn tan derbynir rhybudd tynnu’n ôl ysgrifenedig.
Mae angen rhybudd o un mis calendr i ddiweddu gwersi. Mae’n rhaid anfon rhybudd ysgrifenedig ar ffurf e-bost i music@theatrclwyd.com. Ni fydd rhybudd ar lafar yn cael ei gofrestru fel rhybudd. Pan yn derbyn rhybudd bydd aelod tîm yn cysylltu gyda chi i gadarnhau’r cansliad a chynllunio ar gyfer gweddill y tymor.
Er y gall Myfyrwyr dynnu’n ôl o wersi ar unrhyw amser, fel rhan o’r cytundeb hwn, byddent ynghlwm yn ariannol i dalu am 1 mis calendr o wersi o’r dyddiad y maent wedi cyflwyno eu rhybudd i dynnu’n ôl. Er enghraifft, os ydynt yn cysylltu gyda ni’n awgrymu eu bod yn dymuno canslo eu tiwtora ar 22ain Hydref, bydd rhaid iddynt dalu’r ffi ar gyfer Tachwedd. Bydd y cyfnod rhybudd yn dod i ben ar y 30ain Tachwedd, ac o 1af Rhagfyr ni fyddent wedi eu cofrestru ar gyfer tiwtora mwyach
Taliad Ffioedd & Gwersi
Rydych yn mynychu Cytundeb parhaus ar gyfer tiwtora gyda Cherddoriaeth Theatr Clwyd.
Wrth ddechrau gwersi, byddwn yn cysylltu gyda chi i drefnu taliad trwy Ddebyd Uniongyrchol. Bydd taliadau’n cael eu talu yn fisol dros y flwyddyn academaidd, rhwng Medi a Gorffennaf. Caiff taliadau eu cymryd trwy Ddebyd Uniongyrchol ar y diwrnod 1af o’r mis.
Os nad ydych yn gwneud taliad erbyn y dyddiad a gytunwyd, byddwn yn anfon neges atgoffa atoch chi.
Adolygir ffioedd tiwtora yn flynyddol. Byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi am unrhyw gynydd mewn ffioedd.
Gwarchod Data
Mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol. Bob tro y byddwch yn darparu gwybodaeth fel hyn, mae Theatr Clwyd yn rhwymedig dan y gyfraith i ddefnyddio eich gwybodaeth i gydfynd â’r holl gyfreithiau yn ymwneud ag diogelu gwybodaeth bersonol, gan gynnwys Deddf Gwarchod Data 1998.
Defnydd Data Trydydd Parti: Nid yw Cerddoriaeth Theatr Clwyd fyth yn pasio manylion personol myfyrwyr, staff na chytundebwyr ymlaen heb iddynt fynegi caniatad.
Eich cytundeb: Wrth roi eich manylion yn y meysydd ar ein gwefan rydych yn cytuno i Gerddoriaeth Theatr Clwyd ddarparu gwybodaeth a gwasanaethau yr ydych wedi gofyn amdano.
Am ragor o fanylion, os gwelwch yn dda, edrychwch ar ein Polisi Preifatrwydd.
Cyffredin
Mae Cerddoriaeth Theatr Clwyd yn cadw’r hawl i adolygu’r telerau hyn o dro i dro, fel arfer ar ddiwedd y flwyddyn academaidd. Cewch yr opsiwn i dderbyn y telerau wedi eu hadolygu neu i dynnu’n ôl o’r gwersi os yr ydym yn newid ein telerau. Os yr ydym yn eich cynghori am unrhyw newid deunydd i’r telerau hyn er anfantais i chi heb roi rhybudd digonol i chi dynnu’n ôl o’r Cytundeb erbyn y dyddiad penodol, ni fydd rhaid i chi dalu ffi yn lle anfon rhybudd parthed y tymor canlynol.