Band Roc a Phop
Dydd Iau 4.15yh – 5.45yh
Neuadd Eglwys Santes Fair, King St, Yr Wyddgrug CH7 1LA
(oedran a argymhellir: 13 -18)
Roc, pop, ffync, blŵs a cherddoriaeth enaid wedi’w gymysgu i greu feibs a seiniau newydd! Mae’r grŵp ifanc o gerddorion cyffrous yma yn dysgu cerddoriaeth boblogaidd ar draws y 50 mlynedd, creu trefniadau eu hunain ac yn dod a syniadau, ysbrydolaeth a byrfyfyrion eu hunain. Wrth weithio efo’n tîm o diwtiriaid talentog a phroffesiynol, mae ein Band Roc a Phop yn perfformio mewn gŵyliau a digwyddiadau lleol, a nhw oedd y grŵp nath bennodi ‘Noson Gig Ysgolion TheatrClwyd, Mehefin 2024.
Oherwydd natur y grŵp, llefydd cyfynedig sydd ar gyfer bob offeryn, ond hoffem glywed gan gitaryddion, baswyr, chwareuwyr allweddau/piano, cantorion a drymwyr. Mae’n rhaid i chi fod yn eitha hyderus ar eich offeryn/wrth ganu (oddeutu safon gradd3/4) ond dydi darllen cerddoriaeth neu eich bod wedi cymeryd arholiadau bendant ddim yn ofyniad gan fod pwyslais crýf ar chwarae drwy’r glust a byrfyfyrio.
Ebostiwch darren.matthews@theatrclwyd.com os hoffech wybod mwy.