Dechreuwyr Llinynnol
Dydd Llun 4pm – 5pm
Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP
(oedran a argymhellir: 6 – 11)
Os ydych wastad wedi bod eisio chwarae offeryn llinynnol ….. dyma eich cyfle! Efallai eich bod wedi cael eich ysbrydoli drwy ein rhaglen Profiadau Cyntaf ym mlwyddyn 3, neu efallai ‘r ydych wedi gweld perfformiad gwych ac isio rhoi cynnig arni. Mae’r sesiwn yma wedi’w chynllunio i roi cyfle i ddechreuwyr ddysgu chwarae unai’r Ffidil neu’r Soddgrwth efo’u gilydd fel ensemble o dan arweiniad ein tri tiwtor arbenigol. Does dim rhaid bod a phrofiad blaenorol ac fe allwn ddarparu’r offeryn. Does ddim rhaid i chi fod yn cael gwersi, gan fod y grwp yma wedi’w chynllunio i chi gychwyn.
‘R ydym yn croesawu cerddorion ifanc sydd yn derbyn gwersi llinynnol yn barod – fydd y darnau fyddem yn chwarae efo rhannau yn addas ar gyfer bob oedran a lefelau profiad, o’r llinynnau agored hyd at fýs 1.
‘R ydym yn rhedeg ymarferion agored ar y 7fed,14eg a’r 21ain o fis Hydref. Dowch i’r sesiynau rhad ac am ddim i ddarganfod fwy am yr offerynnau, ac i roi cynnig ar rai ohonyn nhw. Dowch hefyd i ymuno mewn gemau cerddorol, ac i gyfarfod ein tîm o diwtoriaid gwych. Os hoffech fwy o fanylion, ebostiwch susie.jones@theatrclwyd.com