Dydd Mercher 3:45yh – 5yh

Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP

(oedran a argymhellir: 6 – 11)

Newydd gychwyn dysgu’r gitar? Beth am ymuno efo’n band? Dydio ddim rhy hwyr! Mae cerddoriaeth llawer mwy o hwyl efo ffrindiau, ac wrth fod yn rhan o’n ensemble i ddechreuwyr, fe wnewch gyfarfod chwareuwyr ifanc eraill a datblygu eich sgiliau drwy ymarferion hamddenol a hwyliog. Fe wnewch weithio efo’n tiwtoriaid proffesiynol ysbrydoledig, dysgu tonau gwych a chymeryd rhan mewn perfformiadau yn TheatrClwyd ac o fewn ein cymuned lleol.

Mae’r grŵp wedi’i anelu at ddechreuwyr, hyd at chwareuwyr sydd o ddeutu gradd 1, ac fe fydd rhannau a gweithgareddau wedi’w selio ar lefel eich profiad.

Dowch draw i un o’n ymarferion – mae croeso i chi roi cynnig arni, i weld os hoffech chi ymuno. Ebostiwch darren.matthews@theatrclwyd.com. am fwy o wybodaeth, a gadewch inni wybod os ydych yn bwriadu galw ac mi edrychwn allan amdanoch chi.