Dydd Mercher 5yh – 6.30yh

Adeilad Dewi Sant, Sgwâr Daniel Owen, Yr Wyddgrug CH7 1AP

(oedran a argymhellir: 10 -18)

Ydych yn chwarae gitar neu’r gitar fâs? Os ydych wedi blino ymarfer ar ben eich hun, beth am ddod draw i ymarfer a chwarae efo gitaryddion ifanc? Mae o’n gyfle i ddarganfod cymysgedd eang o gerddoriaeth i ddatblygu eich sgiliau mewn lleoliad cyfeillgar ac hamddenol. Fe gewch y cyfle i weithio efo’n tiwtoriaid ysbrydol a phroffesiynol, ac i gymeryd rhan mewn cyngherddau a phrosiectau yn TheatrClwyd ac ar draws Gogledd Cymru.

‘R ydym yn argymell eich bod wedi cyrraedd o leia Gradd 2 er mwyn gallu cael y gorau allan o’r cyfle (does dim reidrwydd i chi fod wedi cymeryd yr arholiadau). ‘R ydym hefyd yn siwr o ddarparu balans o hwyl a her er mwyn annog ein cerddorion mwy ddatblygedig.

Dewch i ymweld un o’n ymarferion – mae croeso i chi ddod i roi cynnig arni, a gweld os hoffech chi ymuno. Eboswtiwch darren.matthews@theatrclwyd.com. os hoffech dderbyn mwy o wybodaeth. Gadewch inni wybod os ydych yn bwriadu mynychu, ac fe wnawn edrych allan amdanoch.

Os ydych newydd gychwyn chwarae ac heb gyrraedd y safon priodol yma, ewch i weld Dechreuwyr Gitar