Dechreuwyr Band Chwyth
Dydd Llun 3.45pm – 5pm
Neuadd Eglwys Santes Fair, King Street, Yr Wyddgrug, CH7 1LA
(oedran a argymhellir: 7 -12)
Os ydych wastad wedi bod eisio chwarae offeryn chwyth neu prês ….. dyma eich cyfle! Efallai eich bod wedi cael eich ysbrydoli drwy ein rhaglen Profiadau Cyntaf ym mlwyddyn 3, neu efallai rydych wedi gweld band gwych ac isio rhoi cynnig arni. Mae’r sesiwn yma wedi’w chynllunio i roi cyfle i ddechreuwyr ddysgu chwarae offerynnau efo’u gilydd fel ensemble o dan arweiniad ein 4 tiwtor arbenigol. Does dim rhaid bod a phrofiad blaenorol ac fe allwn ddarparu’r offeryn. Does ddim rhaid i chi fod yn cael gwersi, gan fod y band wedi’w chynllunio i chi gychwyn.
‘R ydym yn croesawu cerddorion ifanc sydd yn derbyn gwersi chwyth neu pres yn barod – fydd y darnau fyddem yn chwarae efo rhannau yn addas ar gyfer bob oedran a lefelau profiad.
‘R ydym yn rhedeg ymarferion agored ar y 7fed,14eg a’r 21ain o fis Hydref. Dowch i’r sesiynau rhad ac am ddim i ddarganfod fwy am yr offerynnau, ac i roi cynnig ar rai ohonyn nhw. Dowch hefyd i ymuno mewn gemau cerddorol, ac i gyfarfod ein tîm o diwtoriaid gwych. Os hoffech fwy o fanylion, ebostiwch helen.yates@theatrclwyd.com