Grwpiau

Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Mewngofnodi | Cofrestru


Mae cerddoriaeth yn fwy o hwyl gyda phobl eraill!

Mae gennym ni fandiau, cerddorfeydd, corau ac ensembles lle gallwch chi ddod at eich gilydd fel cerddorion ifanc i greu, ymarfer a pherfformio.

Ar hyn o bryd mae’r aelodaeth yn £20 yr hanner tymor (tua £3 y sesiwn) i’w dalu yn fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol.

Mae gwybodaeth am gymorth tuag at gost gwersi ar gael yma.

Mae’r aelodaeth yn cynnwys pob un o’n grwpiau ni sy’n golygu nad oes cost ychwanegol am ymuno â mwy nag un.

Gall eich athro roi cyngor ar ba grŵp i’w ddewis neu gallwch gysylltu â ni ar music@theatrclwyd.com. Does dim rhaid i chi fod yn cael gwersi nac yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint i gael mynediad i’r ensembles.

Sylwch, nid oes gennym unrhyw grwpiau ar gyfer oedolion ar hyn o bryd.


Ein Ensemblau a Grwpiau

Band Chwyth Iau | Band Chwyth Ieuenctid | Côr Iau | Côr Ieuenctid | Grŵp Gitâr Iau | Ensemble Gitâr | Llinynnau Iau | Cerddorfa Linynnol | Grŵp Roc a Pop


Pam ymuno a grŵp/ensemblau?

Mae bod mewn band, grŵp neu ensemble yn llawer o hwyl. Ond mae yna lawer o resymau eraill y gall ymuno fod o fudd i chi – dyma ein 4 rheswm gorau i’ch rhoi ar ben ffordd!

  • Gwaith tîm: Mae angen gwaith tîm i chwarae mewn band. Mae'n ein dysgu i weithio gyda'n gilydd tuag at nod cyffredin, cyfathrebu ar lafar a di-lafar, a gwerthfawrogi sgiliau eich cyd-chwaraewyr. Byddwch yn dysgu gwrando ac ymateb er mwyn creu harmonis hardd gyda'ch gilydd.
  • Datblygu eich sgiliau: Mae chwarae gyda cherddorion dawnus eraill yn eich ysbrydoli i wthio'ch ffiniau a gwella. Gall dysgu gwahanol arddulliau cerddorol ehangu eich gorwelion cerddorol a gwella eich creadigrwydd.
  • Twf personol: Gall perfformio o flaen cynulleidfa roi hwb i hyder a hunan-barch, gan helpu i oresgyn ofn y llwyfan. Wrth ysgrifennu cyfansoddiadau gwreiddiol neu ddehongli caneuon presennol, gall cerddorion ddysgu cysylltu â phobl yn emosiynol.
  • Ymunwch â Chymuned: Dewch i gwrdd â phobl sy'n rhannu'r un diddordeb ac angerdd am gerddoriaeth. Mae cyd-chwaraewyr yn aml yn ffurfio cyfeillgarwch parhaol, yn ogystal ag ymdeimlad o berthyn a chyfeillgarwch sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ymarferion a pherfformiadau.

Mae ein grwpiau ac ensemblau yn cymryd rhan mewn amryw o sioeau yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â mwynhau cyfleoedd i ymuno â pherfformiadau proffesiynol. Cynhelir ymarferion Grŵp/Ensemble yn ystod y tymor yn yr Wyddgrug.