Gwersi mewn ysgolion- mae ysgolion yn Sir y Fflint yn cefnogi cost gwers grŵp ar gyfer disgyblion sy'n derbyn y Grant Datblygu Disgyblion (GDD). Rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cofrestru a gallwn drefnu hyn gyda'r ysgol.

Gwersi ac ensembles y tu allan i’r ysgol - mae’n bwysig i ni bod unrhyw un yn gallu cael mynediad at gyfleoedd cerddorol ac rydyn ni’n cynnig ein cynllun bwrsari heb gwestiynau i gefnogi’r rhai na fyddent fel arall yn gallu fforddio gwersi neu aelodaeth ensemble. Mae gennym ni ddwy lefel o fwrsari - un ar gyfradd is o 25% ac un ar gyfradd is o 50%.

Pris llawn yr Aelodaeth Ensemble yw £120 y flwyddyn, £90 (gostyngiad o 25%), £60 (gostyngiad o 50%)

Pris llawn y gwersi 30 munud yw £648 y flwyddyn, £486 (gostyngiad o 25%), £324 (gostyngiad o 50%)

Nid oes gennym broses ymgeisio ffurfiol ar gyfer bwrsarïau gan ein bod yn ymddiried ynoch chi i dalu’r hyn rydych chi’n gallu ei fforddio, ond gofynnwn i chi gyflwyno fideo byr neu ddatganiad ysgrifenedig i egluro sut gallwn eich cefnogi chi. Byddem hefyd yn gofyn i chi ymrwymo i fynychu eich gwersi neu sesiynau ensemble.

Os oes unrhyw beth arall yn eich atal chi rhag cymryd rhan, fel problemau mynediad, anfonwch e-bost at music@theatrclwyd.com ac fe wnawn ein gorau glas i helpu.

Opsiynau Cefnogaeth Allanol... Elusen yn y DU yw Awards for Young Musicians (AYM) sy’n credu y dylai pob person ifanc dawnus yn gerddorol gael y cyfle i gyflawni eu potensial, beth bynnag yw eu cefndir. Maent yn targedu eu hadnoddau'n ofalus i roi'r cyfle gorau posibl i blant dawnus o deuluoedd incwm isel ffynnu a thyfu fel cerddorion. Ewch i wefan Awards for Musicians.

Mae Future Talent yn elusen sy’n rhoi cymorth ariannol ac arweiniad i gerddorion ifanc rhwng 5 a 18 oed sy’n amlwg yn dangos gallu neu botensial cerddorol eithriadol, ond am ba bynnag reswm sydd heb y modd ariannol i gyrraedd eu nod. Maent yn cefnogi cerddorion o bob genre cerddorol a rhoddir dyfarniadau ar gyfer amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys prynu offerynnau, gwersi cerddoriaeth, ffioedd ar gyfer cyrsiau hyfforddi arbenigol ac aelodaeth o ensembles hyfforddi cenedlaethol. Ewch i wefan Future Talent.