Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Mewngofnodi | Cofrestru


Gobeithio bod hyn yn rhoi rhai atebion cyflym i chi i rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin gan rieni, gofalwyr a myfyrwyr.

Gallwch ddod o hyd i’r Telerau a’r Amodau llawn yma.

  • Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer y gwersi?
    Cofrestrwch gan ddefnyddio ein porthol ar-lein ni, SpeedAdmin.
  • A ddylwn i ddewis gwers grŵp neu unigol?

    Mae manteision i’r ddau – mae’n well gan rai myfyrwyr ddysgu ochr yn ochr â’u cyfoedion mewn grŵp, mae’n annog chwarae ensemble ac mae’r gwersi yma’n rhatach. Gall y cynnydd fod yn gyflymach mewn gwers unigol ac mae mwy o hyblygrwydd. Nid yw’n hawdd dysgu rhai offerynnau mewn grwpiau (piano, cit drymiau)

  • Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gofrestru - pa mor fuan y gallaf ddechrau?

    Byddwn yn trefnu i’r gwersi ddechrau cyn gynted â phosibl, cyn gynted ag y byddwn wedi cadarnhau gyda’r athro a’r ysgol neu leoliad. Os nad oes athro ar gael, byddwn yn eich cadw ar restr aros ac yn rhoi gwybod i chi pan fydd slot ar gael. Os byddwch yn cofrestru ar gyfer gwers grŵp efallai y bydd rhaid i chi aros nes bod lle mewn grŵp.

  • Pryd mae’r gwersi'n cael eu cynnal?

    Mae’r gwersi'n cael eu cynnal yn wythnosol yn ystod y tymor, er mae ychydig o wythnosau ar ddechrau a diwedd y tymor rydym yn eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant ac i wneud iawn am unrhyw wersi a gollwyd. Edrychwch ar Galendr Cerddoriaeth Theatr Clwyd. Mae’r rhan fwyaf o’r gwersi yn digwydd ar yr un amser bob wythnos er bod rhai ysgolion yn cylchdroi amseroedd (rhag colli’r un pwnc bob wythnos).

  • Pa offeryn ddylwn i ei ddewis?

    Dewis personol ydi hynny yn bennaf. Ar gyfer offerynnau pres a chwythbrennau, mae’n well aros tan Gyfnod Allweddol 2 (blwyddyn 3 ac uwch) ond ar gyfer offerynnau eraill mae’n bosibl dechrau yn iau ac mae meintiau offerynnau llai ar gael. Mae’n werth ystyried a ydych chi eisiau chwarae mewn grwpiau ac ensembles – gall y cyfleoedd hyn fod yn gyfyngedig i fyfyrwyr piano.

  • Sut ydw i'n talu am y gwersi?

    Pan fydd eich athro a’ch gwers wedi’u cadarnhau byddwn yn cysylltu â chi i sefydlu Debyd Uniongyrchol misol. Mae cost y gwersi yn cael ei wasgaru dros 10 taliad misol.

  • Oes unrhyw help ar gael gyda chost gwersi?

    Efallai y bydd help ar gael drwy ysgolion i deuluoedd ar incwm isel. Mae gennym ni hefyd fwrsarïau cyfyngedig ar gael drwy Theatr Clwyd. Mae opsiynau pellach ar gyfer cerddorion ifanc mwy datblygedig. Edrychwch ar ein tudalen Help gyda Chostau am ragor o wybodaeth.

  • Sut mae llogi neu brynu offeryn?

    Rydym wedi gohirio ein cynllun llogi offerynnau ond yn gobeithio ei ailsefydlu yn y dyfodol agos. …… Gallwch ofyn i’ch athro am gyngor mwy penodol hefyd.

  • Pa gerddoriaeth neu ategolion fydd arnaf i eu hangen?

    Bydd eich athro yn rhoi cyngor ar lyfrau cerddoriaeth pan fyddwch yn dechrau. Efallai y bydd angen i chi brynu manion eraill hefyd, fel llinynnau sbâr, cyrs, olew falf ar gyfer eich offeryn. Unwaith eto, gall eich athro roi cyngor.

  • Beth os bydd y myfyriwr yn colli gwers?

    Ni allwn gynnig ad-daliad am wersi sy’n cael eu colli oherwydd salwch neu absenoldebau eraill. Os yw'r absenoldeb yn un tymor hwy, siaradwch â'ch athro neu cysylltwch â ni i drafod opsiynau.

  • Beth sy'n digwydd pan fydd gwers yn cael ei chanslo gan yr athro neu'r ysgol?

    Os yw’r athro’n sâl neu os caiff y wers ei chanslo gan yr ysgol, byddwn yn gwneud ein gorau i aildrefnu’r wers i un o’r wythnosau “dal i fyny” ar ddiwedd y tymor. Os nad yw hyn yn bosibl, bydd ffi’r wers yn cael ei had-dalu.

  • Oes posib cyflwyno’r gwersi yn y Gymraeg?
    Er bod rhai o’n hathrawon ni’n siaradwyr Cymraeg rhugl, ni allwn warantu hyn. Rhowch wybod i ni os hoffech chi ofyn am wersi Cymraeg ond efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser.

  • Sut ydw i'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd?

    Mae ein hathrawon yn defnyddio adran StudyPlan ein porthol ar-lein, SpeedAdmin, i gadw nodiadau o bob gwers a darparu cofnod parhaus o gynnydd. Rydym yn rhoi cyfle blynyddol i rieni a gofalwyr gwrdd ag athro eu plentyn.

  • Beth am arholiadau?

    Os yw’r myfyriwr eisiau sefyll arholiadau graddedig (nid yw hyn yn siwtio pawb), mae posib trefnu hyn drwy eich athro.

  • Sut mae dod i wybod am ensembles a gweithgareddau eraill?

    Gallwch gael gwybod mwy am grwpiau ac ensembles yn Cerddoriaeth Theatr Clwyd yma. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi am weithdai a chyngherddau sydd i ddod drwy ein cylchlythyr a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol.

  • Beth os ydw i eisiau rhoi'r gorau i’r gwersi?

    Siaradwch gyda'ch athro neu cysylltwch â ni os ydych chi'n ystyried rhoi'r gorau i’ch gwersi - rydyn ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu ar gyfer eich siwrnai gerddorol. Er enghraifft, efallai y bydd modd trefnu i newid offeryn. Os ydych chi eisiau rhoi'r gorau i’ch gwersi mae angen mis calendr o rybudd yn ysgrifenedig i music@theatrclwyd.com

Os oes gennych chi unrhyw unrhyw gwestiynau, materion neu bryderon, cysylltwch â'ch athro yn y lle cyntaf. Os nad yw hyn yn briodol neu os oes arnoch chi angen cymorth pellach, e-bostiwch music@theatrclwyd.com. Dylid defnyddio'r e-bost yma hefyd ar gyfer unrhyw ymholiadau bilio.