Amdanom ni

Dolenni Cyflym | Cysylltu â ni | Mewngofnodi | Cofrestru


Mae gan Gerddoriaeth Theatr Clwyd ddull cyfannol o ddysgu. Rydyn ni’n credu mewn dysgu sgiliau cerddorol yn ogystal ag offerynnol gan arwain at well gallu cerddorol.

Cerddoriaeth Theatr Clwyd yw’r prif ddarparwr addysg cerddoriaeth yn Sir y Fflint. Mae’n darparu profiadau cerddoriaeth i fwy na 2,400 o gyfranogwyr bob wythnos mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ac o’n canolfan ni yn yr Wyddgrug.

Rydyn ni’n cyflogi tîm o fwy na 35 o bobl i ddarparu profiad dysgu pleserus o ansawdd uchel.



Cliciwch yma i gwrdd â'r tîm.

Ein Hanes

Yn 2019 roedd Gwasanaeth Cerddoriaeth hirsefydlog Cyngor Sir y Fflint mewn perygl o gau. Nid oedd colli gwasanaeth sydd wedi dod â llawenydd i gymaint o bobl, yn ogystal â chynhyrchu rhai o gerddorion gorau’r DU, yn opsiwn, felly cydweithiodd Theatr Clwyd a Chyngor Sir y Fflint yn agos i wneud yn siŵr nad oedd hyn yn digwydd.

Yn 2020 ymunodd Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir y Fflint â Theatr Clwyd i ddod yn ‘Cerddoriaeth Theatr Clwyd.'

Mae’r bartneriaeth arloesol hon yn diogelu addysg cerddoriaeth mewn ysgolion, yn darparu dysgu o ansawdd uwch i bobl ifanc ac yn cynnal cerddoriaeth fel llwybr creadigol ar gyfer hunanfynegiant.

Mae’r cydweithio agos ag un o sefydliadau celfyddydol mwyaf Cymru yn sicrhau buddion enfawr – o adnoddau gwell gyda mynediad at dimau ymgysylltu creadigol a thechnegol o’r radd flaenaf, i gyfle i weld cerddorion o safon fyd-eang am brisiau llawer is fel rhan o’r profiad dysgu.


Y Gwahaniaeth Rydym yn ei Wneud

O ganlyniad i ymuno â Theatr Clwyd roedden ni’n gallu cynnig y canlynol:

• Gwersi o ansawdd uwch
• Grwpiau llai o faint
• Cyfle ar gyfer dysgu un i un pwrpasol
• Llai o weinyddu i ysgolion
• Cyllidebu symlach ar gyfer ysgolion
• Perthynas gadarnach rhwng rhiant a thiwtor cerddoriaeth
• Amseroedd gwersi hyblyg
• Costau cyson i rieni
• Hyblygrwydd prisio a thalu i deuluoedd incwm isel*

Beth Rydym yn ei Gynnig

Rydym yn cynnig dysgu cerddorol ac offerynnol o ansawdd uchel. Mae ein rhaglen yn cynnwys y canlynol:

• Gwersi cerddoriaeth grŵp (uchafswm o 3 ym mhob grŵp)
• Gwersi cerddoriaeth un i un
• Theori cerddoriaeth a hyfforddiant sain clust
• Arholiadau allanol gyda Trinity College Llundain (clasurol a jazz, roc a phop) a’r Associated Board of the Royal Schools of Music
• Ensembles, grwpiau a chorau
• Hyfforddiant dosbarth cyfan ar gyfer ysgolion cynradd.


Sut mae cofrestru?

Mae cofrestru yn broses gyflym a hawdd - cliciwch yma, llenwch y ffurflen gyda'ch dewisiadau ac fe wnawn ni'r gweddill. Os oes gennych chi unrhyw bryderon, gallwn eu hateb cyn i chi ddechrau.